Albwm rhyngwladol newydd Mr Phormula 

Mae’r rapiwr a’r bîtbocsiwr gweithgar, Mr Phormula, wedi rhyddhau albwm ei brosiect aml-gyfrannog diweddaraf. 

Cymraeg Worldwide ydy enw’r record hir newydd ganddo sy’n ymdrech i fynd â dylanwad y Gymraeg i rannau o’r byd na fu o’r blaen. 

Wedi’i glodfori am ei arddull unigryw a’i agwedd di-ddal-yn-ôl, mae Mr Phormula, sef Ed Holden, yn ôl gyda phrosiect sy’n croesi ffiniau ac ail ddiffinio cerddoriaeth Gymraeg ar lwyfan byd-eang. 

Mae’r albwm yn gweld Mr Phormula yn cydweithio gydag artistiaid o bob cwr o’r byd i greu cyfuniad unigryw o’r Gymraeg ac ieithoedd rhyngwladol.

Wrth asio genres, lleisiau a diwylliannau amrywiol, mae’r prosiect yn creu tapestri sain bywiog sy’n dathlu hunaniaeth, cydweithio creadigol, a’r posibiliadau eang sydd gan iaith o fewn cerddoriaeth.

Cafwyd blas o’r hyn sydd i ddod ar ffurf y sengl ‘Cyswllt Polska’ a ryddhawyd ym mis Mehefin ac oedd yn gweld Mr Phormula yn cyd-weithio gyda’r rapwyr rhyngwladol eraill Dogas, Timothyzic a Lord Willin.

Cymysgu gyda ieithoedd eraill

“…y syniad ydi cymysgu Cymraeg efo mond ieithoedd gwahanol yn rhyngwladol” meddai Ed Holden, sef Mr Phormula.

Mae’r artistiaid eraill ar yr albwm yn cynnwys Strike The Head o’r Eidal, Silverfinger Singh o India a Plouz & Foen o Lydaw ymysg eraill. 

“Un o’r prif resymau dwi’n gwneud yr albwm yma ydy i ddangos bod y Gymraeg yn iaith ryngwladol, a hefyd i ddangos faint o bwysig ydy o i fod yn ddwyieithog ac i dyfu’r iaith tu allan i Gymru” eglura Ed wrth drafod y record gyda’r Selar.

“Nes i gychwyn efo’r syniad o wneud dim ond yr [un] albwm, ond trwy adeiladu perthnasau gwahanol gydag artistiaid dramor, nes i sylweddoli faint o gysylltiadau o’n i’n adeiladu…a wedyn penderfynu, pam gwneud [dim ond] un albwm?!”

Ar ôl gwneud cymaint o gysylltiadau gydag artistiaid rhynglwadol, ag yntau’n awyddus i ehangu cyrhaeddiad yr iaith, rhaid gofyn os oes gan Mr Phormula gynlluniau i berfformio’n fyw yng ngwledydd ei bartneriaid newydd.

“Oes” ydy ateb parod Ed. 

“…dwi wedi siarad efo llwyth o’r artistiaid am drafeilio a pherfformio.

“Ges i’r pleser blwyddyn yma o berfformio un o’r caneuon gyda Plouz & Foen o Lydaw, ma nhw ar yr albwm a di chwarae Tafwyl blwyddyn yma. Ar y ffordd i Tafwyl mi wnaethon nhw berfformio yn y Cwps yn Aberystwyth, es i lawr yna a fe gafon ni’r cyfle i berfformio’r gân!”

Cerddoriaeth yn gerbyd perffaith

Mae’n amlwg wrth sgwrsio bod Ed yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r artistiaid sydd ar yr albwm, ac yn falch iawn o’r cyfle i gyd-weithio â hwy.

“Ma pawb sydd ar yr albwm efo traction yn eu gwledydd ei hunain, a dwi mor ffodus bod fi di gallu adeiladu fframwaith o gysylltiadau i allu cydweithio efo nhw” meddai Ed.

“Dwi’n mor falch o sut mae’r prosiect wedi dod at ei gilydd, ond hefyd – y rheswm pam – ydi bod y Gymraeg yn iaith ryngwladol ac mae miwsic yn gerbyd perffaith i daflunio’r neges, felly ‘Cymraeg Worldwide’.”

O India i Wlad Pwyl, ac o’r Eidal i Nigeria, mae’ n amlwg bod Ed yn teimlo bod y prosiect arloesol hwn yn dymchwel rhwystrau ieithyddol, ac yn gweu mosaig cerddorol gyfoethog sy’n amlygu hunaniaeth ddiwylliannol a grym cerddoriaeth i gysylltu.