Blas cyntaf o albwm newydd Dafydd Owain

Mae Dafydd Owain wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n flas cyntaf o’i albwm nesaf.. 

‘Leo’ ydy enw’r trac diweddara’ ganddo sydd allan ar label I KA CHING. 

‘Leo’ ydy’r awgrym cyntaf o’r sain y gallwn ddisgwyl ar gasgliad diweddaraf o ganeuon Dafydd a fydd yn cael ei ryddhau dan y teitl Ymarfer Byw.

Dyma’r sengl gyntaf i Dafydd ei rhyddhau ers iddo gyhoeddi ei gasgliad unigol cyntaf o ganeuon sef ‘Uwch Dros y Pysgod’, ym Mai 2023. Enwebwyd yr albwm hwnnw am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ogystal â gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

Bellach mae Dafydd yn barod i gyflwyno ei ail albwm, sydd ar drywydd tywyllach na’r cyntaf yn ôl y cerddor. 

“Cam tuag at ddrws nas agorwyd oedd yr albwm cynta, wedi meddwl…” meddai Dafydd. 

“Dw i’n meddwl fod yr ail albwm yma’n gam bwriadol dros adwy’r drws yna.”

Mae llu o gerddorion amryddawn yn ymuno â Dafydd ar ei sengl gyntaf, gan gynnwys Aled Huws, Osian Huw Williams, Gethin Griffiths, Harri Owain, Dafydd Williams, Mari Morgan, Dáire Roberts a Rhodri Brooks. 

Wrth y llyw yn peiriannu, cynhyrchu a chyfeiriad creadigol mae’r amryddawn, Llŷr Parri (Gwenno, Melin Melyn).