‘Cariad Cyntaf’ ydy enw sengl ddiweddaraf Al Lewis, sydd allan nawr.
Dyma ddehongliad Al o’r gân werin draddodiadol Gymreig o’r un enw.
Mae’r gân yn cynnwys ymddangosiadau gwadd gan y delynores fyd-enwog, Catrin Finch, a’r cerddor/cyfansoddwr a threfnydd aml-dalentog, Patrick Rimes (o Calan a VRï) ar y ffidil a’r harmoniwm.
Daw hefyd cefnogaeth ychwanegol ar y record gan Chris Jones ar y dryms a Darren Edens ar y banjo.
Roedd cyfle i weld perfformiad cyntaf y triawd Lewis/Finch/Rimes yn yr Eglwys Genedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wythnos diwethaf.
Daw’r sengl newydd yn dilyn taith 15 dyddiad gan Al Lewis mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, a’i welodd yn ymweld â threfi a dinasoedd ar hyd rhwydwaith rheilffyrdd trawiadol Cymru.