Celavi yn rhyddhau ‘Eyeliner’

Yn ffres o’u perfformiad cyntaf yng ngŵyl The Great Escape yn Brighton wythnos diwethaf, mae’r band nu-metal o Fangor, CELAVI, wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘EYELINER’, ers dydd Iau 22 Mai.

Mae ‘EYELINER’ yn anthem llawn chaos – yn cyfuno riffs nu-metal egnïol gyda grit emosiynol – sy’n amhosib ei anghofio. Wedi’i gynhyrchu gan Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Nova Twins, Holding Absence), mae’r trac yn plethu dylynwadau metal, goth, diwydiannol, electro a roc i greu sŵn cwbl unigryw.

Yn cynnwys geiriau mewn tair iaith wahanol, mae’r trac yn mynd yn groes i’r arferol a’n pwysleisio natur arbrofol, di-dal-yn-ôl y ddeuawd. 

“Fel band, da ni’n sefyll dros hunanwerth, dilysrwydd, a bod yn chi’ch hun – beth bynnag mae’r byd yn ei daflu atoch” meddai Sarah o’r band.  

“Yn byw mewn byd lle mae pwysau i gydymffurfio, mae ‘EYELINER’ yn anthem ar gyfer y misfits, yr outcasts, ac unrhyw un sydd erioed wedi teimlo fel nad ydyn nhw’n perthyn.”

Gyda gigs ar y ffordd yng Nghasnewydd, Manceinion a Wrecsam, mae CELAVI yn barod i wthio cerddoriaeth metal o Gymru yn bellach nag erioed.