Sesiwn Fawr yn galw am wirfoddolwyr

Mae trefnwyr gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau yn galw am wirfoddolwyr i helpu gyda’r digwyddiad.

Cynhelir y Sesiwn Fawr ar benwythnos 17-20 Gorffennaf eleni gyda llu o gerddoriaeth fyw mewn safleoedd amrywiol yn y dref.

Mae’r trefnwyr yn chwilio am stiwardiaid i helpu am ychydig oriau dros y penwythnos, gyda galw arbennig ar ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu gysylltu dros ebost i gyfeiriad swyddogdatblygu@sesiwnfawr.cymru, neu lenwi ffurflen ar-lein sy’n cael ei rhannu