Cyhoeddi Gŵyl Amgen newydd yn y gogledd

Mae trefnwyr wedi cyhoeddi manylion gŵyl gerddoriaeth amgen newydd yng Ngogledd Cymru. 

‘Yr Arfordir Amgen – Alternative Coast’ ydy enw’r ŵyl fydd yn cael ei chynnal ym Mae Colwyn ar 24 Ionawr. 

Mae’n ymddangos mai gŵyl aml-leoliad fydd hon, gydag artistiaid yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol yn y dref. 

Hyd yma, dim ond un o’r lleoliadau sydd wedi eu cyhoeddi sef Ink, sy’n gyfarwydd fel oriel gelf ym Mae Colwyn. Pasta Hull fydd yn agor yr arlwy yno am 1pm, gydag Yr Onglau, Osgled a Peiriant i’w gweld yno’n ddiweddarach yn y dydd hefyd. 

Yn ôl y trefnwyr byddan nhw’n gollwng union fanylion yr ŵyl yn raddol dros yr wythnosau nesaf, ond ymysg yr artistiaid eraill fydd yn perfformio mae Archif Sain Peblig, Bethesda Shippong Co., Chwaer Fawr, Crwban, Deckchair Protest, Delweddau Hen Dduwiau, Halen Wyn Pari, Hap a Damwain a Maines.