Cyhoeddi manylion arlwy Gŵyl Cefni 2025

Mae Gŵyl Cefni yn Llangefni, Ynys Môn wedi cyhoeddi manylion arlwy gerddorol y digwyddiad eleni.

Cynhelir yr ŵyl ym maes parcio Neuadd y Dref, Llangefni a bydd cerddoriaeth fyw ar nos Wener 6 Mehefin a dydd Sadwrn 7 Mehefin.

Elin Fflur fydd y prif atyniad ar y nos Wener a bydd cefnogaeth gan y Moniars a Tesni Hughes.

Y band poblogaidd o Fôn, Fleur de Lys, fydd y prif enw ar y llwyfan perfformio ddydd Sadwrn, a bydd Gwilym, Mared, Cordia, Morgan Elwy, Huw Aye Rebals, Yr Anghysur a mwy yn perfformio hefyd yn ystod y dydd. 

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer yr ŵyl nawr.