Cyhoeddi manylion taith Eve Goodman a Sera

Mae’r ddeuawd swynol, Eve Goodman a Sera, wedi cyhoeddi manylion eu taith ar y cyd yn y flwyddyn newydd. 

Dechreuodd Eve Goodman a SERA gyd-weithio ar ôl iddynt gael eu dewis fel artistiaid ar gynllun Gorwelion y BBC yn 2019. Ar ôl dim ond un sesiwn ysgrifennu fe wnaethon nhw ddod o hyd i dir cyffredin sef eu cysylltiad â’u chwilfrydedd am natur. 

Dros y misoedd diwethaf maent wedi rhyddhau cyfres o senglau, gan arwain at gyhoeddi eu halbwm llawn o ganeuon ar y cyd, ‘Natur’, ym mis Hydref. 

I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm, bu iddynt gynnal taith o amgylch Cymru ym mis Hydref  a dechrau Tachwedd, ac maent bellach wedi datgelu manylion cyfres arall o gigs yn y flwyddyn newydd. 

Bydd eu gig cyntaf yn lleoliad Your Roots Are Showing yn Belfast ar 14 Ionawr. 

Ar ôl hynny bydd cyfleoedd i’w gweld ym Mhontypridd, Abertawe, Penfro, Amwythig, Caernarfon, Llundain, Aberystwyth a Chaerdydd rhwng Ionawr ac Ebrill. 

Dyma fanylion y gigs: 

14 Ionawr – Your Roots Are Showing,Belfast

30 Ionawr – Clwb y Bont, Pontypridd

31 Ionawr – Tŷ Tawe, Abertawe

1 Chwefror – Cwtsh, Penfro

22 Mawrth – The Hive, Amwythig

27 Mawrth – Galeri, Caernarfon

4 Ebrill – Green Note, Llundain

5 Ebrill – Dulwich Folk Club, Llundain

14 Ebrill – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

16 Ebrill – Stiwdio Acapela, Pentyrch, Caerdydd

Mae tocynnau’r gigs ar werth nawr.