Cyhoeddi manylion taith hydref taith Ani Glass

Wrth baratoi i ryddhau ei halbwm newydd, mae Ani Glass wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs fydd yn daith lansio ar gyfer y record hir.

Mae Ani eisoes wedi cyhoeddi bydd ei halbwm newydd, ‘Phantasmagoria’, yn cael ei ryddhau ar 26 Medi eleni. 

Gwnaed hynny ym mis Gorffennaf wrth ryddhau’r sengl sy’n rhannu enw’r albwm fel blas o’r hyn sydd i ddod.

Mae’r albwm newydd yn ddilyniant i record hir gyntaf Ani Glass, sef ‘Mirores’, a ryddhawyd ar ddechrau 2020, jyst cyn y cyfnod clo.

Yn fuan ar ôl rhyddhau ‘Mirores’ cafodd yr artist o Gaerdydd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd anfalaen prin. Roedd y diagnosis yn ddechrau ar daith bersonol i Ani sydd wedi siapio ei halbwm newydd, albwm cysyniadol mewnsyllgar sy’n plymio’n ddwfn i’w phrofiad o ffeindio ei ffordd trwy fywyd gyda’r diagnosis. 

Mae’r albwm yn un amlieithog ac yn cynnwys geiriau yn y Gymraeg, yn y Gernyweg ac mewn Saesneg. Mae Ani hefyd yn plethu ychydig o BSL (iaith arwyddo) i’w pherfformiadau byw.

Wrth iddi baratoi i ryddhau  ‘Phantasmagoria’ mae Ani wedi datgelu manylion cyfres o gigs fydd yn dechrau yng Nghaerdydd ar ddyddiad rhyddhau’r albwm. 

Bydd Ani hefyd yn perfformio gigs yn Llundain, Caerfyrddin, Aberystwyth, Wrecsam ac Abertawe wedi hynny. 

Manylion llawn gigs hyrwyddo ‘Phantasmagoria’: 

26 Medi – The Canopi, Cardiff

28 Medi – The Social, London

03 Hydref – Cwrw, Carmarthen 

10 Hydref – Cŵps, Aberystwyth 

24 Hydref – Tŷ Pawb, Wrexham

07 Hydref – Tŷ Tawe, Swansea