Cyhoeddi mwy o arlwy cerddorol Eisteddfod Wrecsam

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi’r ail don o artistiaid a fydd yn perfformio ar lwyfannau amrywiol yr ŵyl eleni, gyda nifer o enwau ifanc yn ymddangos, yn ogystal â llu o ffefrynnau cenedlaethol. 

Gyda’r rhaglen lawn i’w chyhoeddi ym mis Mehefin, mae’r trefnwyr wedi enwi rhagor o’r artistiaid fel tamaid i aros pryd ar gyfer yr ŵyl a gynhelir ar gyrion Wrecsam o 2-9 Awst.

Bydd rhai o brif artistiaid Cymru fel Candelas, Dafydd Iwan, Elin Fflur ac Yws Gwynedd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes eleni, gyda chriw o artistiaid ifanc fel Buddug, Dadleoli, Taran a TewTewTennau hefyd i’w gweld ar brif lwyfan awyr-agored Cymru yn ystod yr ŵyl. 

Datgelwyd y bydd artistiaid lleol, gan gynnwys Daniel Lloyd a Mr Pinc a Talulah hefyd yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn ystod yr wythnos.

Mae llwyfan Encore wedi ennill ei blwyf dros y blynyddoedd diwethaf fel lleoliad arbennig ar gyfer sgyrsiau a pherfformiadau agos atoch sy’n ymwneud â’r byd cerddorol.  Cawn gyfle i gofio Arwel Hughes, y cyfansoddwr a’r cerddor enwog o Rhos, sesiwn wych am ganeuon pêl-droed y Cymry, Cyrn, sombïaid a Diego Maradona, dan ofal Mei Emrys a’r cerddor, Owain Roberts, a bydd ‘brwydr y cyfeilyddion’ yn dychwelyd am flwyddyn arall mewn rhaglen ddifyr a diddorol sy’n sicr o apelio at gynulleidfa eang.

Bwriad Maes D yw rhoi blas o’r Eisteddfod i’r rheini sy’n newydd i’n hiaith ac yn dysgu Cymraeg, gyda chymysgedd eclectig o sesiynau sy’n rhoi blas o bob elfen o’r ŵyl i ymwelwyr newydd.  Ymysg y perfformwyr cerddorol yno y tro hwn bydd enwau adnabyddus fel Dafydd Iwan, Gwenan Gibbard a Pedair. 

“Mae’r amrywiaeth o artistiaid sy’n cael eu cyhoeddi heddiw fel rhan o’r ail don yn arbennig, gyda rhywbeth sy’n sicr o apelio at bawb ymysg y rhestr” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses.   

“Mae ton arall o gyhoeddiadau i ddod yn fuan, cyn i ni gyhoeddi’r rhaglen gyflawn ganol Mehefin.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn croesawu nifer o artistiaid ifanc a newydd i’r Maes yn Wrecsam eleni, ac rwy’n sicr bod rhai o sêr y dyfodol yn mynd i fod yn perfformio ar ein llwyfannau ni eleni.  Mae cynnig cyfleoedd i artistiaid newydd yn rhan bwysig o genadwri’r Eisteddfod er mwyn cryfhau pob elfen o’r celfyddydau yng Nghymru a chefnogi creu sin bywiog ac amrywiol