Jack Davies ydy’r artist diweddaraf i ryddhau cynnyrch ar y label sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo cerddoriaeth electronig yn y Gymraeg, sef HOSC.
Ailgymysgiad ffyrnig o’r trac ‘Bae’ gan Yws Gwynedd ydy’r cynnyrch diweddaraf i ollwng ar y label.
Mae Jack Davies yn gynhyrchydd o Abertawe, sydd wedi gweithio ar ambell i brosiect mawr, gan gynnwys y gân ‘Feelings’ gyda Ben Rainey a Johnny Wright.
Cyflwynwyd ei waith i HOSC wrth iddo yrru ailgymysgiad o ‘Bae’ i’r label oedd yn rhoi sbin dawns dywyllach ond ymlaciedig i’r gân.
Bydd HOSC yn parhau i gyflwyno artistiaid newydd i’r label wythnos nesaf wrth i Martyn Kinnear rannu ei ailgymysgiad diweddaraf ef o sengl newydd Aleighcia Scott, ‘Dod o’r Galon’.