Mae’r band Cyn Cwsg wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, sy’n flas pellach o’r hyn sydd i ddod ar eu EP newydd.
‘Only Time’ ydy trac newydd sydd allan nawr ar label Lwcus T.
Daw’r sengl ddiweddaraf yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau llynedd gan gynnwys ‘Asgwrn Newydd’, ‘Lôn Gul’ a ‘Gwranda Frawd’ — a fachodd sylw Riley & Coe ar BBC 6 Music ymysg eraill.
Nawr, mae label y band, Lwcus T, wedi rhannu’r newyddion bod EP cyntaf Cyn Cwsg ar y gorwel.
Yn dwyn y teitl ‘Pydru yn yr Haul’, mae’r EP yn gasgliad cyfrwys o ganeuon cofiadwy — llawer trymach na chafwyd fel rhan o’u ton gyntaf o draciau, ac yn gosod y band o bedwar ymhlith y blaenllaw a’r amlwg yma yng Nghymru yn ôl Lwcus T.
Wedi gweithio gyda Sywel Nyw a Kris Jenkins fel cynhyrchwyr llynedd, mae’r EP yn ffrwyth llafur cydweithrediad newydd gyda’r cynhyrchydd Tom Rees o’r band Buzzard Buzzard Buzzard. Mae’n camu’n ôl o’u dylanwadau breuddwydiol a’u curiadau cysglyd cynnar a’n gwyro tuag at roc meddal y 70au a’r 90au.
“Mae’r casgliad fymryn yn galetach na’r stwff blaenorol, y gitârs yn brathu, y vocals yn sych, a’r alawon yn sefyll ar eu traed eu hunain gobeithio” meddai Tomos Lynch o’r band am yr EP pump trac.
Er bod yr EP yn ffoi o’r gofod ysgafnach, does dim cyfaddawdu ar arddull (arferol) ffraeth yr ysgrifennu, ac mae hynny wedi’i amlygu ar y trac ‘Only Time’.
“Ma’r gân yn un wirion o syml, ond gobeithio bod yr alaw a’r geiriau’n gallu tynnu rhywun i mewn” ychwanega Tomos.
“Cawson ni lot o hwyl yn y stiwdio efo Tom – yn dychmygu ein bod ni’n nabod George Harrison a MJ Lenderman, am ryw reswm – a ma’ siŵr bod hynny i’w glywed ar yr EP.”
Wedi iddynt chwarae cyfres o gigs dros fisoedd y gaeaf, gan gynnwys cefnogi’r bandiau o Gaerdydd, Slate a Shale, ynghyd â pherfformio yn FOCUS Wales yn ddiweddar, mae ‘Only Time’ yn dangos yn glir bod Cyn Cwsg yn deffro’n ara’ bach – wrth i’w casgliad newydd o ganeuon agosáu.
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl sydd wedi’i gyfarwyddo gan Aled Victor a Sion Rees: