Sesiwn fyw Tokomololo

Mae’r artist electronig cyffrous Tokomololo wedi cyhoeddi fideo o sesiwn fyw arbennig ar ei safle YouTube.

Mae’r fideo yn dangos Tokomololo, sef prosiect Meilir Tee Evans, yn perfformio’r trac ‘Sylfaen’ yn yr awyr agored gyda golygfeydd godidog Nantlle yng Ngwynedd yn gefndir.