Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi datgelu eu rhestr fer ar gyfer y wobr eleni, sy’n cynnwys nifer helaeth o albyms iaith Gymraeg.
Dyfernir y wobr, a sefydlwyd yn wreiddiol gan y DJ Huw Stephens a’r hyrwyddwr John Rostron, am y pymthegfed tro eleni ac mae’r rhestr fer yn cynnwys 15 o artistiaid.
Mae cynrychiolaeth o amrywiaeth eang o genres – o hip hop, rap a cherddoriaeth electronig i werin, roc a phync-pop – y cyfan yn y ras am y wobr glodwiw a rhodd ariannol o £10,000.
Mae dros hanner y recordiau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn rai gan artistiaid sy’n canu’n bennaf yn y Gymraeg, gan adlewyrchu’r camau breision mae cerddoriaeth gyfoes Gymraeg wedi’u gwneud.
Mae rhain yn cynnwys albwm cyntaf Buddug, ynghyd ag albyms diweddaraf Adwaith, Breichiau Hir, Cerys Hafana, Don Leisure, Sage Todz, Tai Haf Heb Drigolyn a The Gentle Good.
Albyms cyntaf yn creu argraff
Mae clwstwr o albyms cyntaf wedi cyrraedd y rhestr y tro hwn – ochr yn ochr ag albwm gyntaf Panic Shack sy’n rhannu’r un enw â’r band, a gyrhaeddodd rif 1 yn y Siart Albyms Roc a Metel Swyddogol; mae Tai Haf Heb Drigolyn gydag ‘Ein Albwm Cyntaf Ni’, y gantores-gyfansoddwraig unigol Buddug gyda ‘Rhwng Gwyll a Gwawr’, yr artistiaid electro-pop o Gaerdydd Siula gyda’u halbwm gyntaf sinematig, ‘Night Falls on the World’ a’r band roc seicadelig Melin Melyn gyda ‘Mill on The Hill’.
Ymhlith yr artistiaid eraill sydd ar y rhestr fer mae’r enillwyr dwbl blaenorol Adwaith gyda’u halbwm diweddaraf, ‘Solas’, yn ogystal ag enillydd blaenorol arall, Gwenno, gyda’i halbwm diweddaraf, ‘Utopia’. Mae enillydd 2017, The Gentle Good, ar y rhestr fer eleni gyda’i record ddiweddaraf ‘Elan’, yn ogystal ag enillydd 2021 Kelly Lee Owens gyda’i halbwm newydd, ‘Dreamstate.
Mae’r albyms Cymraeg, neu albyms sy’n cynnwys traciau Cymraeg, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cynnwys ymchwiliad manwl y cynhyrchydd o Gaerdydd Don Leisure i archifau labeli gwerin indi, ‘Tyrchu Sain’; yr artist rap Sage Todz gyda ‘Stopia Cwyno’ a’r rocwyr amgen Breichiau Hir a enwebwyd am eu halbwm roc nodedig, ‘Y Dwylo Uwchben’.
Mae ‘Cotton Crown’, sef ail albwm The Tubs – band o Gymru sydd bellach wedi’i leoli yn Llundain – wedi’i henwebu, yn ogystal ag ‘Acid Communism’, wythfed albwm y band hirsefydlog KEYS o Gastell-nedd, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer unwaith o’r blaen yn 2020, a hefyd albwm offerynnol y delynores a’r gyfansoddwraig Cerys Hafana, ‘Difrisg’.
Cyhoeddi’r enillydd ar 6 Hydref
Bydd enw’r albwm buddugol eleni’n cael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, nos Lun 6 Hydref, o dan arweiniad Sian Eleri o Radio 1.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ochr yn ochr â rhaglen deledu newydd o uchafbwyntiau ar BBC One Wales, fydd yn arddangos darnau o’r seremoni.
Sefydlwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011, ac mae’ n dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed eleni, ac i nodi’r garreg filltir mae BBC Cymru Wales wedi comisiynu rhaglen uchafbwyntiau arbennig o’r digwyddiad eleni a fydd hefyd yn edrych ar effaith y wobr ar sîn gerddoriaeth Cymru dros y pymtheg mlynedd diwethaf. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar ôl y seremoni eleni ar BBC One Wales a BBC iPlayer.
Caiff y wobr ei rhoi am albwm gan artist o Gymru sydd wedi’i rhyddhau yn ystod y flwyddyn flaenorol, ac aeth y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gyntaf i Gruff Rhys am ei drydydd albwm unigol, ‘Hotel Shampoo’.
Enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y llynedd oedd L E M F R E C K gyda’i albwm tair rhan uchelgeisiol llawn awyrgylch a ryddhawyd yn 2023, ‘Blood, Sweat & Fears’.
Yn ystod ei araith wrth dderbyn y wobr, siaradodd yr artist R&B a rap amgen, a gafodd ei fagu yng Nghasnewydd, am y gydnabyddiaeth gan y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
“Hoffwn sôn am ba mor bwysig yw cynrychiolaeth” meddai L E M F R E C K.
“Nid ticio bocs yw e pan fydd artistiaid fel fi yn ennill gwobrau fel hyn – mae’n gadarnhad o gelf.”
Mae un o syflaenwyr y wobr, Huw Stephens, yn falch iawn i fod wedi cyrraedd y garreg filltir.
“Am y pymthegfed tro, bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn dathlu’r albymau grêt yma mewn noson arbennig” meddai Huw.
“Rydyn ni’n falch iawn y bydd pawb yn cael gweld y noson ar BBC One Wales ac iPlayer eleni hefyd. Mae’r rhestr hir a’r rhestr fer ddilynol o albymau yn ein hatgoffa’n flynyddol am y gerddoriaeth a’r albymau gwych sy’n dod o Gymru.”
Panel o ferniaid fydd yngyfrifol am ddewis enillydd y wobr elen o’r enwau sydd ar y rhestr fer.
Y beirniaid eleni yw:
- Sofia Ilyas, Prif Swyddog Cymunedol yn Oriel Beatport.
- Roisin O’Connor, golygydd cerddoriaeth yr Independent a chyflwynydd y podlediad Good Vibrations.
- DJ a chyflwynydd ar BBC Radio Wales, Molly Palmer.
- DJ, awdur a chyflwynydd ar BBC 6 Music, Zakia Sewell.
- Natalia Quiros Edmunds, newyddiadurwraig gerddoriaeth a rheolwr artistiaid i Wildlife Entertainment, cwmni rheoli’r Arctic Monkeys a Fontaines DC.
- Awdur a beirniad cerdd y Guardian, Jude Rogers.
- Davie Morgan, awdur a rheolwr marchnata’r cylchgrawn diwylliant a cherddoriaeth Gymreig, Radar.
- Tim Jonze, golygydd cysylltiol ar gyfer diwylliant yn y Guardian.
- Caroline Cullen, Cynhyrchydd Cyfres – Later…with Jools Holland / BBC Studios
Rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025:
- Adwaith – Solas
- Buddug – Rhwng Gwyll a Gwawr
- Breichiau Hir – Y Dwylo Uwchben
- Cerys Hafana – Difrisg
- Don Leisure – Tyrchu Sain
- Gwenno – Utopia
- Kelly Lee Owens – Dreamstate
- KEYS – Acid Communism
- Melin Melyn – Mill on the Hill
- Panic Shack – Panic Shack
- Sage Todz – Stopia Cwyno
- Siula – Night Falls on the World
- Tai Haf Heb Drigolyn – Ein Albwm Cyntaf Ni
- The Gentle Good – Elan
- The Tubs – Cotton Crown