Endaf yn cydweithio gyda Ruby ar sengl newydd

Mae’r cynhyrchydd o Gaernarfon, Endaf, wedi cydweithio gyda’r canwr-gyfansoddwr, Ruby, ar ei sengl ddiweddaraf. 

Trac neo soul ydy ‘To You, From Me’ sy’n cyfuno llais llyfn Ruby gyda chynhyrchu nodweddiadol Endaf. 

Bellach yn un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw Cymru, cafodd doniau Endaf eu hamlygu ar raglen Y Llais S4C yn ddiweddar ac mae’n parhau i greu synau byrlymus gyda’i drac diweddaraf. Mae Ruby, sydd hefyd o Ogledd Cymru, wedi rhyddhau dwy sengl hyd yma — ‘Learn to Grow’ a ‘Love Me Better’ — ac mae ‘To You, From Me’, yn ei gweld yn datblygu ar ei sain gynnes. 

Mae’r sengl allan ers dydd Gwener 15 Awst ar label High Grade Grooves.