Urdd x TG Lurgan i ddod ynghyd i berfformio’n fyw yn Connemara

Mae mudiad yr Urdd wedi dod ynghyd gyda’r mudiad ieuenctid Gwyddelig, TG Lurgan, i gyd-weithio ar eu nawfed prosiect ar y cyd.

Unwaith eto, nod y bobl ifanc o’r mudiadau hyn oedd i chwalu ffiniau ieithyddol a pharhau i feithrin perthynas rhwng y ddwy gymuned.

Daeth tua  400 o bobl ifanc TG Lurgan a 31 o aelodau’r Urdd at ei gilydd ar gyfer cwrs perswyl, Coláiste Lurgan, yn Connemara wythnos diwethaf (wythnos 18 Awst). Yna ar nos Wener 22 Awst fe gynhaliwyd cyngerdd, Féile, gan roi cyfle i’r bobl ifanc berfformio caneuon poblogaidd yn y Gymraeg a’r Wyddeleg, yn ogystal â chaneuon gwreiddiol. Roedd y diweddglo’n cynnwys perfformiadau gan fandiau proffesiynol gyda chyn aelodau TG Lurgan.

Dechreuodd y bartneriaeth rhwng y ddau fudiad  yn ystod cyfnod clo Covid-19, ac mae wedi denu miliynau o bobl i’w gwylio ar draws gwasanaethau ffrydio fideo a cherddoriaeth. 

Fel rhan o’r prosiect diweddaraf maent wedi mynd ati i berfformio a recordio fideo gerddoriaeth ar gyfer y gân enwog ‘Dreams’  gan Fleetwood Mac, mewn cymysgedd o’r Wyddeleg a’r Gymraeg.

Wrth wraidd y cydweithio mae gweledigaeth gytûn i ddangos ieithoedd lleiafrifol fel yr endidau byw ydyn nhw, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Wyddeleg yn eu  bywydau bob dydd. Mae cofleidio elfennau creadigol y cydweithio hwn hefyd yn dod â’r weledigaeth hon i gynulleidfa fyd-eang, un o amcanion craidd Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2030 a lansiwyd yn ddiweddar gan y Tánaiste Simon Harris a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.

“Mae Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2030 wedi helpu i ddatblygu cydweithrediad cryf rhwng Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys hyrwyddo a gwarchod ein hieithoedd Celtaidd” meddai Eluned Morgan wrth sôn am y prosiect. 

“Un o’r nifer o bethau sydd gennym yn gyffredin yw sut mae cerddoriaeth yn ganolog i’n hunaniaethau cenedlaethol, felly mae’n wych gweld pobl ifanc o’r ddwy genedl yn dod at ei gilydd trwy bŵer cân. 

“Mae hon yn enghraifft fywiog o’r cysylltiad rhwng ein pobl ifanc a’n ieithoedd ac rwy’n siŵr y bydd y cydweithrediad diweddaraf yn llwyddiant ysgubol arall. Da iawn pawb.”

Ym mis Ionawr 2021, daeth aelodau’r Urdd a TG Lurgan at ei gilydd i greu’r fideo cerddoriaeth cyntaf erioed yn Gymraeg a Gwyddeleg, ‘Golau’n Dallu / Dallta as na Solise’, addasiad o’r gân boblogaidd  ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd. O fewn mis i’w ryddhau, gwelwyd y fideo gan dros 100,000 o bobl. Hyd yma, maen nhw wedi cydweithio ar wyth cyd-gynhyrchiad.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac fel mudiad ieuenctid cenedlaethol rydym am gyflwyno’r Gymraeg mewn ffordd cyfoes a grymuso siaradwyr newydd” meddai Ceren Roberts, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol Urdd Gobaith Cymru. 

“Mae prosiectau rhyngwladol yr Urdd yn hyrwyddo cyfnewid a deall diwylliannau, wrth amlygu pwysigrwydd amddiffyn ieithoedd lleiafrifol. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r Wyddeleg i bobl Iwerddon, ac felly mae parhau â’r prosiect hwn yn hynod gyffrous i ni.”

Dyma fersiwn Urdd x Lurgan o ‘Dog Days’ gan Florence & The Machine llynedd: