Rhyddhau EP cyntaf Tokomololo

Mae’r artist electronig newydd, Tokomololo, wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn ddiweddar a bellach wedi rhyddhau ei EP cyntaf ar label HOSC hefyd. 

Rhyddhawyd y record fer ar ddydd Iau 8 Mai, ac yn ôl y label mae’r record fer yr un mor hudolus â’i sioeau byw.

‘Cysgod Lliwgar’ ydy enw’r EP newydd, ac EP cyntaf Tokomololo, ac fe’i rhyddhawyd ddydd Iau cyn i’r cerddor chwarae ar Lwyfan Klust yn FOCUS Wales. 

Meilir Tee Evans sydd y tu ôl i guriadau cariadus Tokomololo ac mae pedwar trac ganddo ar yr EP newydd.  

‘Cysgod Lliwgar’ ydy’r teitl drac ac mae’n gân sy’n dathlu llawenydd a chysur o ddianc i gefn gwlad. Wedi’i ysbrydoli gan harddwch cefn gwlad Gogledd Cymru, mae’n dal cyffro bod ar ben dy hun yn y mynyddoedd a’r awyr agored. Mae synau Foley, a recordiwyd yn ystod y teithiau hyn, yn disodli offerynnau taro traddodiadol fel ‘snares’, ‘hi-hats’, a ‘shakers’, gan seilio’r trac yn ei darddiad naturiol. 

Trac electronica melancolaidd ond disglair ydy ‘Enwa’r Gân’ sy’n symud rhwng atgof, colled a dathlu. Gyda lleisiau trawiadol Poppy Marsh — dysgwraig Cymraeg sy’n gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn yr iaith — mae’r gân yn dal ymdeimlad o golled wedi’i wneud yn haws gan gynhesrwydd a chysylltiad. Gyda gweadau disglair yn debyg i artistiaid fel Portable a Maribou State, mae’n gwahodd gwrandawyr i ddal gafael ar eiliadau prin bywyd ac i ddawnsio heb boeni.

Trac electronica groovy ond di-flewyn-ar-dafod ydy ‘Llanast’ sydd wedi’i yrru gan synths melodaidd a churiadau hypnotig, Mae ‘Llanast’ yn dal yr anhrefn a’r harddwch rhyfedd sy’n dod o hunanddinistr. Gyda geiriau sy’n sôn am losgi’r cyfan i lawr a dod o hyd i gysur yn y llanast, mae ganddi arddull tebyg i Moderat a Jamie xx.

Y trac olaf ydy ‘Sylfaen’  – cân sy’n dal cyffro dechrau pennod newydd mewn bywyd, gan ganolbwyntio ar daith a rennir cwpl yn eu cartref cyntaf. Mae geiriau’r pennill cyntaf yn dwyn i gof y cyffro o gamu i mewn i ystafell wag, gyda phosibiliadau o’r hyn y gallai ddod. Erbyn yr ail bennill, mae’r cynhyrchiad yn esblygu gyda lleisiau haenog ac alawon ailadroddus. Mae cynhesrwydd y gân yn adlewyrchu’r daith o ddychwelyd i wreiddiau cyfarwydd wrth gofleidio’r dyfodol.