Mae Mared wedi ryddhau ei EP ‘band byw’ newydd, ‘Mared & Friends – Live at Lightship 95’.
Mae’r record yn gasgliad ddwyieithog o ganeuon sydd wedi eu rhyddhau dros y 5 mlynedd diwethaf.
O’i halbwm, i’r EP’s a’r senglau; mae’r trefniannau newydd yn cyfuno sawl genre gwahanol gan gynnwys jazz, soul a pop, gyda harmonïau lleisiol ac elfennau o fyrfyfyrio yn treiddio trwy’r record.
Cafodd y casgliad ei recordio ar gwch, yn stiwdio eiconig Lightship 95 yn North Greenwich, a hefyd yn 123 Studios yn Peckham, Llundain.
Mae 8 cerddor dawnus dros ben yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys cydweithrediad arbennig gyda’r artist neo-glasurol, Gwenno Morgan. Yn serennu hefyd ar ‘Fade Away’ mae’r pianydd jazz o Fae Colwyn, Nico Widdowson.
Y cerddorion eraill sy’n cyfrannu at y casgliad ydy Miriam Isaac, Mabli Gwynne, Tom Potter, Dave Edwards a Will Sensicle.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan gronfa lansio BBC Gorwelion.
“Mae perfformio yn fyw a chreu trefniannau i’r band (sydd yn griw o ffrindiau) yn rhan mor gyffrous o siwrnau fy nghaneuon, a rydw i mor falch o allu dogfennu’r sain gyda help Gorwelion” meddai Mared.
Cafodd y sesiwn byw ei ffilmio gan Aled Victor a bydd yn cael ei rannu ar sianel YouTube Mared ar 5 Mehefin.
Dyma ‘Llif yr Awr’ o’r EP:
(Llun: FfotoNant)