Eve Goodman a SERA yn cydweithio 

Mae’r ddwy gantores ddawnus, Eve Goodman a SERA, wedi dod ynghyd i weithio ar brosiect newydd, ac mae eu sengl gyntaf allan nawr. 

‘Blodyn Gwyllt’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener 11 Gorffennaf, a dyma’r gyntaf o gyfres o senglau ganddynt. 

Y newyddion da pellach ydy y bydd hyn yn arwaith at albwm cydweithredol, ‘Natur’, fydd yn dilyn yn Hydref 2025. 

Mae Blodyn Gwyllt yn ymwneud â bod yn driw i’ch natur a byw’n rhydd. Mae hefyd yn ddathliad o’n hamgylchedd naturiol a menywod – dwy thema sy’n rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd drwy’r albwm.

Yn briodol iawn, mae’r ddeuawd yn rhannu eu trac roc-werin ‘West Coast‘ mewn pryd i’r haf. 

Ochr yn ochr â’u lleisiau a’u harmonïau a’r ddwy yn chwarae gitars, mae’r trac yn cynnwys gitâr bedal ddur (Gwyndaf Williams) a gitâr bas gan ei chyd-gynhyrchydd Colin Bass, sy’n aelod o’r band Camel a hefyd gynhyrchodd albwm ‘Tincian’ gyda 9 Bach. 

Recordiwyd y gân yn Wild End Stiwdio ger Llanrwst.

Tir cyffredin

Dechreuodd Eve Goodman a SERA gyd-weithio ar ôl iddynt gael eu dewis fel Artistiaid Gorwelion y BBC yn 2019. 

Roedd gan y ddwy lawer yn gyffredin – roeddent yn gantorion-gyfansoddwyr gwerin, gyda gyrfaoedd unigol oedd yn datblygu’n gyflym, ac roedd y ddwy hefyd wedi eu magu yng Nghaernarfon. 

Daeth Gorwelion â nhw at ei gilydd mewn ffordd, ac ar ôl dim ond un sesiwn ysgrifennu fe ddaethon nhw o hyd i dir cyffredin yn eu cysylltiad â’u chwilfrydedd am natur. 

Wedi’u hamgylchynu gan dirwedd hardd Gogledd Cymru sy’n rhan mor bwysig o’u bywydau, a hefyd wedi’u hysbrydoli gan y prosiect ‘Geiriau Coll – Spell Songs,’ dechreuodd y ddeuawd archwilio’r enwau Cymraeg ar adar a choed, blodau a physgod. Tyfodd tendrilau’r caneuon yn fuan i gyffwrdd ag elfen gylchol natur a menywod, ac yn fuan iawn roedd corff o waith yn tyfu, pob cân yn emyn o gariad i’r ddwy.

Dechreuodd 2020 fel blwyddyn gyffrous i’r ddwy, gan berfformio ar Heno, yna’n fyw yn Stiwdios Maida Vale y BBC, a rhyddhau dwy gân boblogaidd sef ‘Gaeafgwsg’ a ‘Rhwng y Coed’.  

Wrth gwrs, daeth cyfyngiadau Covid wedi hynny, a chafodd y prosiect seibiant am ychydig flynyddoedd. Diolch i grant Loteri Tŷ Cerdd ac yna cronfa lansio Horizons, llwyddodd y ddwy i wneud amser i ysgrifennu rhagor o draciau ar gyfer eu halbwm, gan gystadlu yng Nghân i Gymru 2023 gyda’r trac ‘Tangnefedd’, cyn mynd yn ôl i’r stiwdio.

I gyd-fynd â’r sengl, mae fideo ar gyfer y trac wedi’i ryddhau hefyd, gwyliwch isod:

Llun: Eve a Sera yn y stiwdio wrth iddynt ddechrau cyd-weithio yn 2020