Siula yn rhyddhau albwm cyntaf

Mae’r ddeuawd o Gaerdydd, Siula, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf – ‘Night Falls on the World’ ydy enw’r record hir newydd sydd allan ar label Recordiau Libertino. 

Siula ydy’r prosiect pop sinematig sy’n cynnwys Llion Robertson, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r band Cotton Wolf, ac Iqra Malik, sydd hefyd wedi perfformio a rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw Artshawty.  

Yn gasgliad cofiadwy o ddeuddeg trac emosiynol, mae ‘Night Falls on the World’ yn plethu’r hapus a’r trist, y llonydd a’r lliwgar – ond yn fwy na dim, mae’n fap meddwl o syniadau sonig Llion ac Iqra. 

Yn cyfuno synths miniog, lleisiau haenog, a geiriau trawiadol, mae’r albwm yn llifo rhwng y Saesneg a’r Gymraeg gan greu byd disglair, breuddwydiol. 

Yma, daw straeon am gariad, cysylltiad â pherthynas ynghyd, gyda thraciau fel ‘Fragments’ a ‘Fallen Angel’ yn dawnsio’n ysgafn tra bod eraill, gan gynnwys ‘Ti a Fi’ a ‘Kyoto Sky’, yn cynnig eiliadau euraidd, llawn lliw. 

Nid albwm yn unig yw’r hyn mae Siula wedi’i greu ond taith sinematig sy’n cydio’n syth. Mae’n gofyn i’r gwrandäwr oedi, myfyrio, ac ildio i’r tensiwn tawel sy’n bodoli rhwng colled ac eglurder. 

Er nad yw ‘Night Falls on the World’ yn cynnig atebion hawdd, mae’n cynnig cysur, harddwch a llonyddwch. 

Dyma ‘Golau Gwir’, sy’n cloi yr albwm: