Mae’r ddeuawd gwerin-americana, Eve Goodman a SERA, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Anian’ ydy enw’r trac newydd sy’n flas pellach o albwm newydd y bartneriaeth gerddorol fydd allan yn ddiweddarach yn yr hydref.
Mae ‘Anian’ yn barhad o’r thema byd natur sydd wedi bod yn nodwedd o senglau eraill diweddar y ddwy, ac yn trafod y modd mae bywyd modern yn ein gorlwytho a sut y dylem ddychwelyd i rythm natur.
Dyma’r drydedd mewn cyfres o senglau gan y ddwy ganwr-gyfansoddwr wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm cydweithredol, Natur, fydd allan yn ystod yr hydref.
Mae’n ddilyniant i’w senglau blaenorol, ‘Blodyn Gwyllt’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf, a ‘Cwlwm Cariad’, a ryddhawyd ym mis Awst.
Mae’r gân yn ein hudo gyda’i melodi bachog, sy’n plethu gyda’i gweadau a harmonïau.
Yn y geiriau clywir gresynu am y bywyd ble mae gorffwys ac anadlu’n cael ei anghofio, ynghyd ag anogaeth i ni sefyll yn llonydd a gwrando ar ein greddfau. Mae’r gân am gofio’r ffaith ein bod ni, fel bodau dynol, yn rhan annatod o natur.
Cydweithio ers 2019
Recordiwyd y trac yn Wild End Studio ger Llanrwst gyda’r cyd-gynhyrchydd Colin Bass, oedd yn gyfrifol am gynhyrchu albwm ‘Tincian’ gan 9Bach, sef enillydd ‘Albwm Gorau’ Gwobrau Gwerin Radio 2 yn 2015.
Dechreuodd Eve Goodman a SERA gyd-weithio ar ôl iddynt gael eu dewis fel Artistiaid Gorwelion y BBC yn 2019. Roedd sawl peth yn gyffredin rhwng y ddwy, ac un o’r pethau hynny oedd eu cysylltiad â’u chwilfrydedd am natur.
Dechreuodd 2020 fel blwyddyn gyffrous i’r ddwy, gan berfformio ar Heno, yna’n fyw yn Stiwdios Maida Vale y BBC, a rhyddhau dwy gân boblogaidd, ‘Gaeafgwsg’ a ‘Rhwng y Coed’, a gafodd eu rhoi ar restr chwarae BBC Radio Cymru. Wrth gwrs, daeth cyfyngiadau Covid, a bu’n rhaid i’r prosiect gael seibiant am ychydig flynyddoedd.
Gigs Eve Goodman a SERA:
10 Hydref – Blue Sky Cafe, Bangor
12 Hydref – Warws Un, Llanrwst
18 Hydref – Tŷ Tawe, Abertawe
19 Hyudref – Clwb Y Bont, Pontypridd
2 Tachwedd – Stori, Bala
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Anian’: