Ffilm ddogfen albwm newydd The Gentle Good

Mae ffilm ddogfen fer wedi’i gyhoeddi sy’n crynhoi profiad Gareth Bonello, sef The Gentle Good, wrth recordio ei albwm diweddaraf.

Mae ‘Elan’ yn albwm a ysgrifennwyd gan Gareth dros gyfnod o flwyddyn breswyl yn byw mewn bwthyn ‘off grid’ ym Mynyddoedd Elenydd yng Nghanolbarth Cymru.

Mae ‘Elan’ yn bortread seicadelig o Gwm Elan ym Mhowys, ac yn archwiliad o ddiwylliant, gwleidyddiaeth a hunaniaeth trwy hanes a chwedloniaeth y dyffryn. 

Mae’r ffilm ddogfen fer wedi’i gynhyrchu gan On Par Productions ac ar gael i’w wylio ar YouTube, neu isod…