Fideo sengl ddiweddaraf Mellt

Mae Mellt wedi cyhoeddi fideo ar gyfer eu sengl ddiweddaraf, ‘Weatherman’.

Rhyddhawyd ‘Weatherman’ ar 26 Tachwedd, a dyma’r ail sengl o EP nesaf Mellt, gan ddilyn ‘Big Bird’ a ryddhawyd yn mis Hydref.

‘Big Bird’ fydd enw’r EP newydd hefydd, a fydd yn cael ei ryddhau ar 12 Rhagfyr. Mae’r fideo newydd wedi’i ffilmio a golygu gan Sam Rhys.

Mae Mellt newydd ddychwelyd o berfformio mewn dau gig yn Sweden ddiwedd mis Tachwedd, ac fe fyddan nhw i’w gweld yn chwarae mewn cyfres fach o gigs yn fuan yn y flwyddyn newydd  ym Mryste, Llundain a Chaerdydd. 

Gigs Mellt:

28 Ionawr – Exchange, Bryste

6 Chwefroe – The Grace, Islington, Llundain

7 Chwefror – Clwb Ifor Bach, Caerdydd