Sengl Nadolig Lowri Evans

Mae’r gantores boblogaidd o Sir Benfro, Lowri Evans, wedi rhyddhau ei sengl Nadolig newydd. 

 ‘Arhosa amdana i (o dan y goeden Nadolig)’ ydy enw’r trac Nadoligaidd ganddi sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 5 Rhagfyr. 

“Dyma gân am gariadon sydd wedi bod ar wahân drwy’r flwyddyn ond eu bod wedi addo i gwrdd unwaith eto adeg y Nadolig i roi cyfle arall i’w cariad” meddai Lowri. 

Yn dathlu ugain mlynedd ers rhyddhau ei halbwm cyntaf flwyddyn nesaf, mae 2026 yn addo i fod yn flwyddyn fawr i Lowri, gydag albwm newydd sbon ar y gweill.