Mae’r canwr-gyfansoddwr profiadol Mered Morris wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Gaiman i Esquel’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor sydd wedi chwarae gitâr i nifer o fandiau a cherddorion eraill yn y gorffennol ond sydd bellach yn rhyddhau cerddoriaeth yn unigol ers sawl blwyddyn.
Dros y gaeaf llynedd, fe dreuliodd Mered fis yn y Wladfa yn perfformio gyda Bryn Fôn, Rhys Meirion a Menna Rhys.
Yn ystod yr amser hynny, fe fu tair siwrnai i groesi’r paith, o Ddyffryn Camwy i odre’r Andes.
Mae ‘Gaiman i Esquel’, yn gân roc egnïol, sy’n sôn am y profiad a hanes y Cymry fu’n croesi’r paith gyntaf, 140 o flynyddoedd yn ôl.
Mered sy’n canu a chwarae’r gitâr a’r allweddellau, gydag Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) ar y bas, a Llywelyn ap Gwyn ar y drymiau.