Rhyddhau chweched albwm Mered Morris
Mae’r cerddor profiadol, Mered Morris, wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 22 Mai. ‘Y Paith a Llefydd Eraill’ ydy enw’r record hir unigol newydd gan y cerddor sydd wedi bod yn aelod o sawl band cyfarwydd dros y blynyddoedd.