Mae Recordiau Libertino wedi rhyddhau eu halbwm aml-gyfrannog newydd ‘Swigod!: Libertino Cyfrol / Vol 1’.
Mae’r casgliad yn cynnwys llwyth o draciau sydd wedi eu rhyddhau gan artistiaid sydd wedi bod yn cyhoeddi eu cynnyrch ar y label sy’n cael ei redeg gan Gruff Owen.
Mae gwreiddiau Libertino i’w canfod yn y lleoliad eiconig, Parrot yng Nghaerfyrddin. Yno, yn ystod un o gigs cyntaf ARGRPH ac Adwaith, ganed y syniad o greu rhywbeth o’r newydd – rhywbeth a fyddai’n cynnig llwyfan a llais i artistiaid newydd o Gymru ac a fyddai’n torri’n rhydd o’r disgwyliadau ailadroddus. Yno, y daeth hi’n glir bod yr egni a’r awch gan Gruff, i gefnogi’r don nesaf o artistiaid Cymreig.
Sefydlwyd Libertino fel label annibynnol, dwyieithog, uchelgeisiol a blaengar – un nad oedd am fodloni ar ryddhau cerddoriaeth yn unig ond un oedd am ail-ddiffinio ac ail-strwythuro pob agwedd o’r diwydiant.
Y bwriad oedd creu newid, i gryfhau ac i wella, i fod yn gynhwysol ac yn agored ac i groesawu syniadau o’r newydd. A’r cyfan er budd artistiaid ifanc, ac er mwyn cefnogi’r gymuned greadigol ehangach.
Ddim yn fêl i gyd
Yn ôl Gruff y syniad oedd bod yn artist-ganolog er mwyn creu amgylchedd agos atoch lle gall artistiaid arbrofi, tyfu a darganfod eu creadigrwydd. Roedd y label am dorri tir newydd yn y Gymraeg er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol, heb golli gafael ar hunaniaeth yr artistiaid lleol.
Teg dweud bod y label wedi bod yn stori llwyddiant, ond mae Gruff yn cyfaddef na fu’n hawdd trwy’r amser.
“Er ein bod mewn sefyllfa freintiedig, yn helpu llunio dyfodol ein hartistiaid, dydi rhedeg label annibynnol ddim yn fêl i gyd” meddai Gruff.
“Mae cyd-bwyso’r ymroddiad hwn gyda chynnal label annibynnol yn sialens. Er hynny, mae’r ffydd sydd gennym yn y gerddoriaeth, yr artistiaid a’r grym sydd yn y caneuon eu hunain yn ein gyrru ymlaen.
“Does dim cyfaddawdu ar ein gwerthoedd hyd yn oed pan fo’r diwydiant yn pwyso arnom. Trwy oresgyn y pwysau hynny rydym wedi cadw’n ffyddlon i’r ysbryd a ysbrydolodd Libertino o’r dechrau. “
“Wrth aros yn driw i’n gweledigaeth a’r straeon yr hoffem eu hadrodd, mae perthynas gref wedi datblygu rhwng ein hartistiaid a’u cynulleidfa, ac mae gweld yr ymateb hwnnw’n blaguro dros y blynyddoedd yn cynhesu’r galon. Celfyddyd pur a gonest yw’r gân bop ac mae ei gallu i godi uwchlaw iaith a ffiniau yn ddigymar.”
Dathlu pennod gyntaf
Yn ôl y label maent wedi ceisio ail ddiffinio beth a welir fel llwyddiant yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’r syniad hen ffasiwn o ‘lwyddo’, sef llwyddiant masnachol yn hytrach na gwerthoedd artistig yn medru niweidio lles ac iechyd meddwl cerddorion meddai Gruff.
“Wrth herio’r confensiynau gosodedig hynny credwn y medrwn ddisodli’r llawlyfr hen ffasiwn trwy gyflwyno un sy’n adlewyrchu realaeth a gwerthoedd artistiaid heddiw.”
Mae SWIGOD yn cynrychioli’r daith honno sydd wedi ail ddiffinio yr hyn y gall cerddoriaeth amgen Gymraeg fod.
Mae’r albwm aml-gyfrannog yn dathlu pennod gyntaf Libertino a’i artistiaid ac yn arddangos agwedd eofn y label, yn hyrwyddo lleisiau dewr sy’n gwthio ffiniau tu hwnt i gysgod ‘Cool Cymru’, ac yn gwrthod cael eu rhwystro gan gyfyngiadau’r diwydiant.
“Ni fyddai’r daith hon yn bosibl onibau am y sylfaen gadarn a osodwyd gan arloeswyr fel Emyr, Gruff ac Alun o ANKST, Richard a Wyn o Fflach a Rhys Mwyn o Recordiau Anhrefn” meddai Gruff wrth sôn am ddylanwadau’r label.
“Eu hegni diflino hwy a’u parodrwydd i fentro sydd wedi naddu’r ffordd i ni allu arbrofi heddiw. Mae eu cyfraniad a’u hymrwymiad i gerddoriaeth ac i ddiwylliant Cymru wedi agor y ffordd ac mae ein dyled yn fawr iddynt. Mae eu gwaddol hwy yn parhau i lunio’n gorwelion ac yn ein hysbrydoli i symud ymlaen er mwyn mynd â cherddoriaeth Gymraeg ym mhellach nag erioed o’r blaen.”
“Er gwaetha’r heriau anochel, mae Libertino yn parhau i wthio cerddoriaeth o Gymru – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gan ddarganfod cynulleidfa mae ein hartistiaid ni, a holl artistiaid o Gymru, yn eu haeddu.
“Nid edrych yn ôl yn unig mae SWIGOD, ond datganiad o fwriad a chyhoeddiad mai dim ond dechreuad yn unig yw hwn.”
Traciau Swigod!: Libertino Cyfrol / Vol 1
Accü – Am Sêr
Sister Wives – Wandering Along / Rwy’n Crwydro
ilu – Graffiti Hen Ewrop
SYBS – Cwyr
Adwaith – ETO
Los Blancos – Cadw Fi Lan
Ynys – Caneuon
Tacsidermi – Ble Pierre
N’famady Kouyaté – Aros I Fi Yna
Eädyth – Inhale / Exhale
MÊL – Cusco
Phalcons – Idle Ways
Papur Wal – Llyn Llawenydd
Breichiau Hir – Portread O Ddyn Yn Bwyta Ei Hun
Rogue Jones – Triongl Dyfed
Angharad – Postpartum
Minas – Payday
Clwb Fuzz – No Heaven
Chroma – Weithiau
ARGRPH – Llosgi Me
Hotel Et Al – Heneb Yfory
KIM HON – Nofio Efo’r Fishis
Hotel Del Salto – Stand For Your Right
Gillie – i ti
Kidsmoke – Higher
KEYS – You Wear The Loveliest Gowns
Silent Forum – How I Faked the Moon Landing
Siula – Golau Gwir
Alex Dingley – Lovely Life To Leave