Malan yn rhyddhau sengl ‘Lovesick’

Mae Malan wedi dychwelyd gyda sengl newydd ddiweddaraf

‘Lovesick’ ydy enw’r gân newydd ganddi a dyma’i thrac cyntaf oddi ar ei EP dwyieithog newydd, fydd allan cyn hir.

Mae purdeb perffaith cerddoriaeth Malan wedi dwyn canmoliaeth ledled y diwydiant – o gael ei chwarae ar BBC Radio 1 a 6 Music, i ennill ei lle ar restrau chwarae Jazz mwyaf poblogaidd Spotify. 

Ar ôl gweithio gyda Nate Williams ar ei EP blaenorol, mae’r artist yn dychwelyd at ei chynhyrchydd cyntaf, Rich James Roberts, ar gyfer ‘Lovesick’, dan ddychwelyd  i’r stiwdio lle recordiwyd ei sengl gyntaf erioed, ‘Busy Bee’.

Mae ei sengl ddiwethaf, ‘Dau Funud’, wedi cyrraedd dros 200k o ffrydiau mewn cyfnod byr, ac mae Malan wedi cael haf prysur o gigio, gan ymddangos yn ei sioeau ei hun, ac wrth  ymuno ag eraill mewn gwyliau fel Maes B a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

“Ar ôl llwyddiant ‘Dau Funud’ y llynedd, dwi’n gyffrous i rannu ‘Lovesick’, y trac cyntaf o fy EP newydd fydd allan yn fuan” meddai Malan am y sengl ddiweddaraf.

“Mae’r gân yma’n nodi pennod newydd i fi, gan symud tuag at vibe jazz meddalach, mwy hamddenol.

“Mae ‘Lovesick’ yn ymwneud â’r teimlad hwnnw o fod mewn cariad, y math sy’n gwneud i’ch calon rasio a’ch meddwl droelli. Mae’n ymwneud â’r gloÿnnod byw, y nerfau, a’r gobaith bod rhywun yn deall yn iawn beth rydych chi’n ei deimlo. 

“Roedd ysgrifennu’r gân yn ffordd o roi’r emosiynau hynny mewn cerddoriaeth, gan greu rhywbeth agos a breuddwydiol y gall unrhyw un sydd erioed wedi bod mewn cariad uniaethu ag ef.

Yn gerddorol, mae’n llyfn, yn hamddenol, ac yn bersonol, gan adlewyrchu’r cyfeiriad newydd y mae fy ngherddoriaeth yn ei gymryd. Rwy’n falch iawn o rannu hon gyda’r byd ac alla i ddim aros i bawb glywed gweddill yr EP. ‘Lovesick’ yw dechrau’r daith newydd i mi.”

Yn ôl ei label, Côsh, gallwn ddisgwyl mwy o newyddion am gerddoriaeth newydd Malan dros yr wythnosau nesaf.