Mae Martha Elen wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, sef ‘Eilio’.
Daw ‘Eilio’ fel dilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Canu Cloch’, a ryddhawyd ym mis Ebrill.
Recordiwyd ei hail sengl dros gwpwl o ddyddiau a sawl cwpan o goffi yn Stiwdio Sain ym mis Mai 2025.
“Ar gyfer yr ail sengl, oni’n gobeithio cael sŵn ’chydig yn brysurach ac annisgwyl, a ma’ gan ‘Eilio’ deimlad trymach” dywed Martha.
“Mae lot o’r diolch am hyn i Jack [Boles] a’r pedalboard prysura ’rioed na’th ymuno efo’r criw o gerddorion yn Sain tro’ma – a dwi’n siŵr fod yr holl goffi’n help ’fyd.”
Eglura Martha bod y broses o symud yn ôl i’r Gogledd o Gaerdydd wedi dylanwadu’n fawr ar ei sengl newydd.
“Ma’r A470 ‘di chwara’ rhan fawr yn fy mywyd i’n ddiweddar. ‘Dw i ‘di symud i fyw adra o Gaerdydd ond dal yn gweld isho cadw un droed yn y ddinas a ddim wir yn siŵr lle sy’ ora gennai.
“Ond os a’i hefo criw o ffrindia’ i fyny i uchdera’ Eryri rhyw b’nawn, dwi’n anghofio bob dim am be sy’n bellach i’r de na Dinas Mawddwy. Ar ôl un o’r p’nawnia yna dwi’n meddwl ddo’th y syniad tu ôl i’r gân.”
Yn perfformio ar ‘Eilio’ gyda Martha mae Gethin Elis ar y gitâr fas, Iestyn Jones ar y drymiau, Samantha Grace ar y gitâr bedal ddur a Jack Boles ar y gitâr. Aled Hughes sydd wedi cynhyrchu a chymysgu a hynny’n Stiwdio Sain.
Wedi gig cynta’ lawr yng Nghlwb Ifor Bach yn cefnogi Sŵnami a Cyn Cwsg ym mis Mehefin, ail gig yn cefnogi Ynys yn Llofft, Y Felinheli ym mis Gorffennaf, a hefyd cefnogi Mellt a Griff Lynch yn Sesiwn Fawr Dolgellau, mae Martha wedi mwynhau haf prysur o gigs yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a hefyd yng Ngŵyl Y Dyn Gwyrdd fel rhan o lwyfan y Settlement Klust a Sain.