Wedi hir ymaros, mae The Gentle Good wedi rhyddhau ei albwm newydd, ‘Elan’.
Dyma record hir ddiweddaraf prosiect y canwr-gyfansoddwr profiadol Gareth Bonello, ac mae’n bortread seicadelig o Gwm Elan yng Nghanolbarth Powys.
Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth ymgymryd mewn cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria.
Mae’r albwm yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio diwylliant, gwleidyddiaeth a hunaniaeth Gymreig trwy hanes a llên gwerin y cwm, a gafodd ei foddi i ddarparu dŵr i ddinas Birmingham ar ddiwedd yr oes Fictoria.
Wedi’i recordio yn Stiwdios Tŷ Drwg, Caerdydd gyda’r peiriannydd sain Frank Naughton a’r cerddor Andy Fung, ‘Elan’ yw chweched albwm stiwdio The Gentle Good.
Mae’r arlwy diweddaraf hwn yn gweld y cyfansoddwr yn cofleidio paled sain ehangach, sy’n gwneud cyfiawnder i dirweddau helaeth a dramatig Cwm Elan. Yn wahanol i agosatrwydd acwstig yr albwm blaenorol ‘Galargan’, mae’r record newydd yn cynnwys band llawn, ynghyd â amryw o leisiau, gitars, synths, ffliwt a chorn. Mae trefniannau llinynnol anturus gan y cyfansoddwr Seb Goldfinch yn eistedd wrth ymyl gitars gwyrgam, piano rhamantaidd a synths iasol.
Mae amrywiaeth helaeth o syniadau cerddorol yn blaguro drwy’r albwm, sy’n cynnwys cydweithrediadau newydd sbon gyda’r arloeswyr gwerin Rajasthani SAZ, y gantores arbrofol Laura J Martin a’r pencampwr gitâr o Sir Faesyfed, Toby Hay.
Mae ‘Elan’ yn llifo fel afon drwy dirwedd sy’n newid erioed, ac yn gyfraniad disglair at etifeddiaeth gyfoethog cerddoriaeth seicedelig Cymreig.
Yn ogystal â bod ar y llwyfannau digidol arferol mae ‘Elan’ ar gael ar ffurf feinyl a CD ac fe gynhaliwyd lansiad swyddogol yn lleoliad Cultvr Lab ar nos Sadwrn 17 Mai.
Dyma’r teitl drac: