Mae’r band o Gaerdydd, Wigwam, wedi dychwelyd gyda sengl ddwbl.
‘Cylched Yr Haul’ a ‘Paid â Dod Nôl i Fi’ ydy enw’r ddau drac newydd sydd allan ar Recordiau JigCal.
Wigwam ydy Dan Jones ar y drymiau, Griff Daniels ar y gitâr fas ac yn canu, a Gareth Scourfield hefyd yn canu ac yn chwarae’r gitâr.
Mae sengl ddwbl yn gweld Wigwam yn archwilio sain fwy aeddfed a llac, tra’n dal i gofio gwreiddiau eu sensitifrwydd melodig cryf.
Wedi’u cynhyrchu gan Tom Roberts (Showdogs) a mastro gan Tom Rees (Buzzard Buzzard Buzzard), mae’r caneuon yn cyfuno sain gitâr disglair nodweddiadol Wigwam gyda gorchudd o gitâr bedal ddur gan Roberts, gan blethu synau sy’n atgoffa rhywun o waith y sîn ‘countrygaze’ Americanaidd dan arweiniad MJ Lenderman a Wednesday.
EP newydd ar y ffordd
Mae ‘Cylched Yr Haul’ yn cyflwyno’r naïfrwydd o gariad cynnar nerfus, gan gychwyn gydag haenau sy’n efelychu canu gwlad hamddenol, ond sydd methu helpu ond byrstio i gyffro, yn gerddorol ac yn eiriol.
Gyda’r basydd Griff Daniels yn cymryd y cyfrifoldeb am ganu’r prif lais, mae’r gân yn cael ei gyrru gan gitar power-pop tebyg i’r Cyrff ac R.E.M., tra bod rhyngweithio lleisiol Proclaimers-esque y cytganau yn dathlu llawenydd syml cariad yn ddi-gywilydd.
Mae ail gân o’r ddwy, ‘Paid â Dod Nôl i Fi’, yn gweld Wigwam yn archwilio ochr fwy snarky ac angstaidd. Gan gynnig persbectif rhywun sy’n trio ffeindio diweddglo boddhaol wedi diwedd perthynas, mae llais Gareth Scourfield yn ymfalchïo mewn cyfle i fod yn bitw am fand sy’n ffocysu mor aml ar bositifrwydd.
Mae’r penillion slacker, sy’n efelychu artistiaid fel Soccer Mommy a Pavement, yn ildio i gitarau’n sgrechian, sleidiau diog, a hyd yn oed elfennau o riffiau emo, diolch i waith gitâr helaeth gan Gav Owen (Half Happy, Heartpiece).
Mae’r senglau yma’n cynnig blas o EP newydd y band, i’w ryddhau yn yr hydref, sef eu casgliad estynedig cyntaf o gerddoriaeth ers 2018.