Rhyddhau sengl gyntaf MWSOG

‘Chwyldro’ ydy enw’r sengl gyntaf i’w rhyddhau gan y band MWSOG, a hynny ar label BWGiBWGAN. 

MWSOG ydy prosiect diweddaraf yr artist gwerin cyfarwydd o Geredigion, Mari Mathias.  

Gyda harmonïau hyfryd sy’n dwyn i’r cof pobl fel Bert Jansch a Black Sabbath, mae ‘Chwyldro’ yn siŵr o danio’r dychymyg o’r curiad cyntaf yn ôl y label. 

“Mae MWSOG yn caniatáu imi ymgorffori’r Mabinogi” eglura Mari Mathias. 

“Mae lleisiau hynafol yn dal i gerdded yn ein plith – mewn mwsog, mewn metel, rhwng y pridd a’r tir.”

Wedi’i ysbrydoli gan Derfysgoedd Beca – ffermwyr a gododd yn erbyn anghyfiawnder y 19eg ganrif, cafodd y trac ei gynhyrchu gyda Steffan Pringle ym Mhreseli.