Rhyddhau trydydd albwm Bwncath

Mae un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, Bwncath, wedi rhyddhau eu halbwm newydd ers dydd Mercher diwethaf, 7 Mai.

‘Bwncath III’ ydy enw’r albwm diweddaraf, sef trydedd record hir y band o’r gogledd. Mae’n ddilyniant wrth gwrs i ‘Bwncath I’ a ryddhawyd yn 2017 a ‘Bwncath II’ a ddilynodd yn 2020.   

Mae’n albwm sy’n llawn o glasuron newydd gan un o’r bandiau mwyaf prysur a phoblogaidd yng Nghymru. Mae stamp gerddorol unigryw Bwncath yn gwbl amlwg ar y caneuon a’r arddull yn parhau’n driw i sŵn nodweddiadol y band gan gyffroi a swyno fel erioed. Ond yma hefyd mae aeddfedrwydd newydd gan gyffwrdd ag amrywiol themau – cariad, breuder bywyd, cyfeillgarwch, unigrwydd a gobaith, a’r naws yn symud yn gelfydd drwy hiraeth ac ansicrwydd i gyffro a mwynhad – y cyfan yn ddrych i fywydau cymaint ohonom.    

Bu’r bum mlynedd ddiwethaf yn gyfnod eithriadol o brysur i’r band gyda galwadau i berfformio’n barhaus. 

O fewn pythefnos i ryddhau eu hail albwm, ‘Bwncath II’, yn 2020, cafwyd dros 100,000 o ffrydiau ar Spotify. Derbyniodd y band gydnabyddiaeth tu hwnt i Gymru wrth i’r albwm gyrraedd rhif 27 yn siartiau ‘Official Folk Albums Charts UK’ gan aros yn y 40 uchaf am bron i flwyddyn gyfan, ymysg enwau fel The Staves a Laura Marling. Bellach, mae catalog cerddoriaeth Bwncath wedi derbyn cyfanswm o dros 8 miliwn o ffrydiau ar Spotify. Ac mae disgwyl bydd caneuon ‘Bwncath III’, fel eu holl ganeuon eraill, ar dafodau’r genedl yn fuan iawn.

Bydd yr albwm hefyd ar gael ar CD o 14 Mai, a hynny trwy label Recordiau Sain.