Mae Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin wedi cyhoeddi manylion yr artistiaid cerddorol fydd yn perfformio yno eleni.
Cynhelir yr ŵyl ar Barc Myrddin yng nghanol y dref, a hynny ar ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf.
Y prif enw ar y poster eleni ydy Yws Gwynedd, ond mae cefnogaeth fydd yn siŵr o blesio’r dorf leol hefyd ar ffurf Huw Chiswell, Dros Dro, Dadleoli, Gwilym Bowen Rhys, Pwdin Reits ac Iwtopia.
Bydd perfformiadau hefyd gan Gôr Seingar, Coron Moron a’r band ifanc lleol, Alys a’r Tri Gŵr Noeth.
Yn ôl yr arfer bydd digon o weithgareddau hwyliog tu hwnt i’r llwyfan cerddoriaeth hefyd gan gynnwys stondinau, llenyddiaeth, chwaraeon, gweithdai amrywiol a digon o fwyd a diod.