Mae’r cerddor addawol o Sir Gâr, Harry Luke, yn paratoi i ryddhau ei sengl nesaf ar 13 Mehefin.
Er ei fod yn cyfansoddi a pherfformio ers sawl blwyddyn cyn hynny, daeth Harry Luke i amlygrwydd yn ddiweddar ar gyfres deledu Y Llais ar S4C. Cafodd Luke ei ddewis fel aelod o dîm Yws Gwynedd yn ‘clyweliadau cudd’.
Ag yntau’n byw yn Llundain bellach, mae’r profiad arbennig a gafodd ar Y Llais wedi cryfhau ei ysbrydoliaeth i greu rhagor o gerddoriaeth Gymraeg wreiddiol.
‘Dechrau Byw’ ydy enw ei sengl nesaf fydd allan ar 13 Mehefin.
Mae’r gân yn archwilio’r syniad o ailgydio mewn bywyd gyda phersbectif newydd – yn emosiynol ac yn egnïol, gyda dylanwadau pop, soul a’r sîn Gymraeg fodern.
Mae ‘Dechrau Byw’ yn ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Adlewyrchiad’, a berfformiwyd ganddo ar Y Llais ac a gafodd ei ddewis fel ‘Trac yr Wythnos’ BBC Radio Cymru.
Dyma fideo ei sengl ddiwethaf, ‘Adlewyrchiad’: