Harry Luke yn rhyddhau trac a grëodd argraff ar Y Llais

Mae un o’r artistiaid a grëodd argraff mawr yn ddiweddar ar gyfres deledu ‘Y Llais’ wedi rhyddhau ei sengl newydd . 

Cafodd Harry Luke ei ddewis i fod ar dîm Yws Gwynedd yn ystod rownd y ‘Clyweliad Cudd’ ar gyfres Y Llais ar ôl creu argraff yn perfformio trac yr oedd wedi cyfansoddi ei hun. 

‘Adlewyrchiad’ oedd enw’r trac hwnnw, a nawr, ar ôl tipyn o alw gan bobl oedd wedi mwynhau’r perfformiad, mae wedi penderfynu rhyddhau’r gân fel sengl. 

Mae ‘Adlewyrchiad’ yn gân fywiog a sirol sy’n crynhoi nifer o’i atgofion o hafau hapus y blynydoedd a fu. 

Clywir dylanwad artistiaid fel Yws Gwynedd a Fleur De Lys ar y trac ond gyda stamp amlwg y cerddor ifanc ei hun o gerddoriaeth indie a roc amrwd sy’n atgoffa rhywun o ddyddiau haf hir ar lan y môr gyda ffrindiau. Yn wir, aeth Harry ati i gyfansoddi’r gân trwy gasglu ynghyd atgofion a storïau ei hun a ffrindiau cyn dod â nhw ynghyd i greu’r gân gofiadwy. 

Daw Harry yn wreiddiol o Gaerfyrddin ac mae nawr wedi’i leoli yn Guildford. Bu iddo ryddhau ei sengl gyntaf, sef ‘Summer Eighteen’ ym mis Tachwedd 2018 gan ryddhau fersiwn Gymraeg o’r trac dan yr enw ‘Deunawfed Haf’ yn ddiweddarach a gafodd ei berfformio ar gyfres Noson Lawen ar S4C. 

Rhyddhaodd ei EP cyntaf, ‘Happily Sad’ ar ddiwedd 2019 gan ymuno â’r label SAFO Music Group yn fuan wedyn, label sy’n datblygu artistiaid newydd.

Rhyddhaodd ei sengl fwyaf poblogaidd hyd yma, ‘Feel Alive’ gyda’r label hwnnw ac mae’r trac wedi cael sylw BBC Introducing, gan hefyd dreulio pedair wythnos ar frig siart cerddoriaeth Express FM. Mae wedi cael llwyddiant pellach gyda’r sengl ‘Mirror Image’, a chael ei gynnwys ar restr ‘A List’ BBC Radio Wales. 

Llun: James Mensah

Gadael Ymateb