Sengl ddiweddaraf M-Digidol

Mae’r artist electronig M-Digidol wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf. 

‘Petha Da’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ar label HOSC. 

Prosiect diweddaraf y cerddor Rhun Gwilym ydy M-Digidol, gŵr a ddaeth i’r amlwg gyntaf fel aelod o’r band ysgol, Y Morgrug, a oedd yn ffefrynnau mawr gyda’r DJ Huw Stephens. 

Dechreuodd ryddhau cerddoriaeth electronig dan yr enw M-Digidol yn 2023 ac mae wedi rhyddhau nifer o senglau, albwm cyntaf a hyd yn oed mwy o senglau ar ôl hynny hefyd. Er y dechrau prysur a chynhyrchiol, yn ôl label HOSC, dim ond megis dechrau mae’r cynhyrchydd. 

‘Petha Da’ o bosib ydi trac fwyaf hafaidd a hapus M-Digidol hyd yma, gyda llais Rhun yn rhoi teimlad mwy pop i’r hyn mae wedi’i gynnig hyd yma. 

Mae’r sengl ar gael ar y llwyfannau digidol arferol nawr.