Mae’r ddeuawd o Aberteifi, Chwaer, wedi rhyddhau eu sengl Nadolig.
‘Nadolig Gwyn’ ydy enw’r garol Nadoligaidd gan y ddwy chwaer sy’n rhyddhau eu cerddoriaeth trwy label Fflach Cymunedol.
Chwaer yw’r chwiorydd Emma a Lucy Davies-Warhurst. Gyda’u perfformiadau a’u cyfansoddi aeddfed, dwys, a meddylgar, mae’n anodd credu bod y ddwy’n ddisgyblion ysgol — Emma yn Aberteifi a Lucy ym Mro Preseli.
Bu iddynt ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Paid Troi Dy Gefn’, nôl ym mis Mehefin eleni.
Ar ôl yr sengl epig honno, mae’r band Chwaer yn ôl i bigo cydwybod gyda’u carol brociog ‘Nadolig Gwyn’.
Yn cymharu eu Nadolig llawn cariad nhw gyda sefyllfa drychinebus ardaloedd y byd sy’n profi rhyfel ar hyn o bryd, mae’n gân sy’n gofyn i’r gwrandäwr ystyried eu braint y Nadolig hwn.
Yn gerddorol mae’n gam ymlaen tua’r un sŵn mawr dramatig y mae Chwaer yn dechrau ei fireinio wrth adeiladu ar lwyddiant eu sengl gyntaf ac wrth dyfu eu perfformiadau byw.
Dyma ‘Nadolig Gwyn’…