Gig i ddathlu blwyddyn o Fflach Cymunedol

Bydd label Fflach Cymunedol yn cynnal digwyddiad arbennig i ddathlu blwyddyn ers sefydlu’r label ym mis Ionawr. 

Y Seler yn Aberteifi ydy’r lleoliad ar gyfer y gig mawr ar 2 Ionawr fydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw drwy’r dydd gan artistiaid sy’n gysylltiedig â’r label.

Bydd y gig yn dechrau am 15:30 ac yn para nes yr hwyr. Ymysg yr artistiaid sy’n perfformio mae Lafant, Dewin, Yr Hunanol, Chwaer a Rhiannon O’Connor, gydag addewid o fwy o enwau i’w cyhoeddi’n ddiweddarach. 

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys DJs, siop recordiau a bar ar agor trwy’r prynhawn. 

Mae’r gig yn un arbennig i nodi  a dathlu blwyddyn o greu a hyrwyddo cerddoriaeth newydd yng Ngorllewin Cymru yn dilyn sefydlu’r label fel menter gymunedol.  

Mae lleoliad Y Seler wedi bod yn ganolog i hanes Fflach Cymunedol hefyd, gyda gigs rheolaidd yno trwy’r flwyddyn dan faner y label. 

Mae modd prynu tocynnau ar gyfer y gig nawr. 

Llun: Lafant