Mae’r cerddor indie amgen o’r canolbarth, Ffredi Blino, wedi rhyddhau ei sengl newydd.
‘Bannau Brycheiniog’ ydy enw’r sengl newydd ganddo ac mae’n fersiwn Gymraeg o’r trac ‘Brecon Beacons’ gan y band enwog Supergrass a ymddangosodd ar eu halbwm ‘Life on Other Planets’ o 2002.
“Mae’r ardal wedi adennill ei enw gwreiddol, a meddylais y dylai rhywun wneud yr un peth am y gân wych ’ma!” meddai Ffredi.
Cafodd y fideo ar gyfer y trac ei greu gan gwneuthurwr ffilm Cymreig a enwebyd am Emmy, Joby Newson, ac mae’n cynnwys gwrachod, eu dioddefwr ifanc a heddwas amheus, a wedi’i leoli yn erbyn cefndir godigog Maen Llia yn y Bannau.
Bydd Ffredi a’i fand yn teithio dros Cymru yr haf hwn, gyda sioeau sy’n cynnwys y lleoliadau Elysium Abertawe, Bank Vault Aberystwyth, Parti Workhouse Llanfyllin a mwy. Bydd hefyd parti lansio yn ei dref genedigol, Llanidloes.
Mae Ffredi Blino yn artist indie Cymraeg-Aussie sydd wedi rhyddhau dau albwm o ganeuon dwyieithog sy’n herio genre gan dderbyn canmoliaeth eang.
Mae ei senglau ‘Honolulu’ a ‘Fruitfly’ wedi cael eu chwarae gan Cerys Matthews ar BBC 6 Music ac fe gyrhaeddodd ‘Dwwwi’ rif 1 Siart Amgen Rhys Mwyn 2021 ar Radio Cymru.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Bannau Brycheiniog’: