Taran yn ‘Troi’n Aur’

Mae’r band ifanc addawol o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddar’ – ‘Troi’n Aur’ ydy enw’r trac diweddaraf i lanio gan y band ac mae allan ar label JigCal.  

Daw ‘Troi’n Aur’ fel dilyniant i’r sengl ‘Gobaith’ a ryddhawyd fis diwethaf ac yn ôl eu label mae’r sengl yn siŵr o adeiladu ar fomentwm cynnar y band.

Mae Taran wedi mynd o nerth i nerth ers ffurfio ym mis Gorffennaf 2023 drwy gynllun ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl, gan ryddhau eu EP cyntaf, ‘Dyweda, wyt ti…’ flwyddyn yn ddiweddarach. Enillodd yr EP hwnnw wobr ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni.  

‘Troi’n Aur’ ydy un o ganeuon mwyaf bywiog y band, ac mae wastad yn derbyn ymateb gwych yn eu sioeau byw. 

Mae’r band yn awyddus i ddal eu hegni byw ar y recordiadau diweddar, ac yn sicr maent yn llwyddo i wneud union hynny wrth weithio gyda Mei Gwynedd yn Stiwdio JigCal, Caerdydd. 

Mae’r band yn brysur yn recordio ar hyn o bryd ac yn gweithio tuag at ryddhau LP y flwyddyn hon. Bydd Taran yn chwarae ledled Cymru dros yr haf, gan gynnwys Tafwyl, Maes B a hefyd ar lwyfan perfformio Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.