Mae’r cerddor profiadol a phoblogaidd, Gruff Rhys, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
Trac Gymraeg arall ydy’r sengl newydd wrth iddo baratoi i ryddhau ei albwm uniaith Gymraeg diweddaraf ym mis Medi.
‘Taro #1 + #2’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddo ac mae’n ddilyniant i’r traciau ‘Saf Ar Dy Sedd’ a ‘Chwyn Chwyldroadol’ sydd eisoes wedi’u rhyddhau fel senglau dros y ddeufis diwethaf.
Rhyddhawyd y sengl ar 12 Awst gan nodi union fis nes rhyddhau’r albwm, ‘Dim Probs’, fydd allan ar 12 Medi ar label Rock Action Records.
“Dwi newydd ryddhau’r trydydd trac o’r albwm, Taro #1 + #2, cân am gylch bywyd a marwolaeth” meddai Gruff Rhys wrth ryddhau’r sengl newydd.
“Does prin ddim golau yn y trac hwn. Ar wahân i guriadau anhygoel Kliph Scurlock a chyrn gofodol Gavin Fitzjohn.”
Bydd Gruff yn perfformio cyfres o gigs hyrwyddo’r albwm newydd gan ddechrau yng Ngŵyl Ara Deg, Bethesda ar 13 Medi.
Roedd cyfle i’w weld yn perfformio yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd ddydd Iau diwethaf, ac roedd hefyd yn chwarae yng ngŵyl Big City yn Glasgow ddydd Sadwrn.
Dyma’r fideo swyddogol ar gyfer y sengl: