A hithau’n Galan Gaeaf, roedd dydd Gwener diwethaf, 31 Hydref, yn ddyddiad priodol iawn ar gyfer rhyddhau sengl ddiweddaraf Morgan Elwy.
‘Diawl’ ydy’r enw addas ar y sengl newydd gan y cerddor o Ddyffryn Clwyd, ac mae allan ar label Recordiau Bryn Rock.
Mae gan y sengl elfennau o reggae a blues ‘western’, gyda Morgan yn trafod themâu sy’n cynnwys anghyfiawnder, anghydraddoldeb a’r diffyg heddwch yn ein cymdeithas heddiw.
Mae ‘Diawl’ yn flas o albwm nesaf Morgan, fydd yn dilyn yn y gwanwyn blwyddyn nesaf.