‘Tra Môr yn Fur’ – blas pellach o albwm Mynadd

Mae’r band o ardal Y Bala, Mynadd, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener 16 Mai. 

‘Tra Môr yn Fur’ ydy enw’r cynnig diweddaraf ganddynt sydd allan ar Recordiau I KA CHING. 

Dyma’r ail ragflas o albwm cyntaf y band pump aelod o Benllyn fydd yn cael ei ryddhau ym mis Mehefin, gan ddilyn y sengl ‘Adra’ a ryddhawyd ym mis Ebrill. 

Er nad yw teitl y trac yn ymddangos yn y geiriau, o grisialu sentiment y gân ac o fenthyg o’r anthem genedlaethol, mae’n arbennig o addas ar gyfer un o ganeuon mwyaf dirdynnol yr albwm. 

“Mae o’n gân sy’n eitha’ perthnasol i ni gyd yn y band ar y funud dwi’n meddwl, achos mae o’n adeg yn ein bywyd ni lle ’da ni’n ca’l mwy o gyfleoedd, ond ma’n teimlo’n rhyfadd i drïo meddwl am adael adra” meddai Elain, sef y prif leisydd a chyfansoddwr y gân. 

Mae Elain hefyd i’w chlywed ar ail biano yn adran offerynnol y trac, a hynny’n ychwanegu at y fawredd seinyddol. 

Mae ‘Tra Môr yn Fur’, o fod y gân fwyaf newydd o blith y casgliad, yn nodi aeddfedrwydd newydd yn esblygiad y band. Mae’n dilyn ‘Adra’ yn y llinyn thematig sy’n gwau’r albwm ynghyd, gan fynd i’r afael â’r profiad o ddod i oed, a wynebu’r newidiadau ynghlwm.  

Ifan Emlyn Jones fu’n gweithio gyda’r band ar gynhyrchu’r albwm, a bu Alys Williams draw yn Stiwdio Sain i ymgynghori ar y llais. 

Tynnwyd llun y clawr gan Geraint Thomas, ac mae wedi’i gysodi gan Dyfan Williams. Mae haf prysur ar y gweill i’r band; yn ogystal â thaith fer i hyrwyddo’r albwm, mi fyddan nhw’n perfformio yn Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.