Tocynnau Gŵyl Fach Aberporth 2025 ar werth

Mae’r tocynnau ar gyfer gŵyl a gynhelir mewn pentref glan môr yn Ne Ceredigion, Aberporth, ar werth nawr.

Mae Gŵyl Fach Aberporth yn ŵyl sy’n cael ei threfnu ar y cyd rhwng y gymuned yn y pentref a menter iaith Cered, ac ar ôl ei llwyddiant llynedd, mae nôl yn 2025 i ddathlu cerddoriaeth, diwylliant a’r gymuned.

Dydd Sadwrn 21 Mehefin ydy dyddiad yr ŵyl eleni, ac mae llwyth o gerddoriaeth ar yr arlwy gan gynnwys perfformiadau gan Candelas, Bwca, Brychan Llŷr, Lafant, Chwaer, Iwcadwli a Rhocesi.

Yn ôl y trefnwyr bydd mwy o enwau’n cael eu hychwanegu i’r rhestr hefyd, ynghyd â llwyth o weithgareddau eraill ar y dydd sy’n cynnwys gweithgareddau i blant, Bws Annibendod, Jengyd, Tudur Philips, gweithdai gan Glwb Rhwyfo Aberporth a Chlwb Pêl Droed Aberporth a gweithdai Lego.