Yr Egin yn croesawu bandiau ifanc ar gyfer prosiect newydd

Mae Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi lansio prosiect newydd ‘Band Byw!’, sy’n gyfres o weithdai cerddoriaeth i bobl ifanc dros yr haf eleni. 

Canolfan greadigol a digidol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ydy Yr Egin, ac mae’r gweithdai newydd yn targedu pobl ifanc blynyddoedd ysgol 10 i 13. 

Er hynny, dim ond lle i ddeg o bobl sydd ar y gweithdai, ac mae’n gyfle prin i ymuno â phrosiect unigryw sy’n meithrin hyder, creadigrwydd a sgiliau cerddorol drwy brofiad ymarferol meddent. 

Arweinir y gweithdai gan ddau gerddor adnabyddus sef Mari Mathias a Steffan Rhys. 

Artist gwerin gyfoes ac enillydd Gwobr Gân Draddodiadol Orau yng Ngwobrau Gwerin y BBC 2023 ydy Mari Mathias, tra bod Steffan Rhys Williams yn gyfansoddwr profiadol a chynhyrchydd cerddoriaeth deledu sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio gyda bandiau byw ac sydd â’i stiwdios proffesiynolyn Yr Egin.

 Ffyrdd amgen o gyfansoddi

Nod y prosiect ydy ysbrydoli pobl ifanc i sylweddoli bod ganddynt y gallu i greu cerddoriaeth a chaneuon gwreiddiol heb fod angen iddynt allu ysgrifennu cerddoriaeth, darllen dots, arbenigo ar offeryn neu serennu yng nghôr yr ysgol. 

Byddant yn dysgu bod yna ffyrdd amgen o gyfansoddi caneuon a dyma gyfle iddynt arbrofi a deall mwy am y broses sydd yn aml yn un cydweithredol. Bwriad y prosiect yw mwynhau a magu hyder wrth greu a pherfformio. 

Yn ystod y sesiynau, bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i:

  • Gyfansoddi caneuon yn gydweithredol gydag arweiniad Mari Mathias
  • Arbrofi gyda band byw a jamio gydag offerynnau o dan arweiniad Steffan Rhys Williams
  • Dysgu technegau perfformio, recordio a chynhyrchu sain
  • Ffilmio fideo cerddoriaeth proffesiynol dan arweiniad y cyfarwyddwyr creadigol Non Lewis a Heti Hywel
  • Perfformio’n fyw mewn noson arbennig i ddathlu’r gwaith terfynol yng nghlwb CWRW, Caerfyrddin

Cynhelir y sesiynau yn stiwdios proffesiynol Yr Egin, gan ddefnyddio offer sain a fideo o’r radd flaenaf. 

Yn ôl Yr Egin mae hwn yn gyfle i bobl ifanc brofi’r broses greadigol lawn – o’r syniad cyntaf i’r fideo gorffenedig!

“Ar ôl dros 25 o flynyddoedd yn gweithio fel cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth ym myd y cyfryngau, erbyn hyn ‘dwi wrth fy modd yn rhannu’r profiad dwi wedi enyn a gweld y genhedlaeth nesaf yn llwyddo” meddai Steffan Rhys Williams. 

“Fydd gweithio ar y cyd gyda Mari Mathias hefyd dwi’n meddwl yn ffantastig gan fod dull pob cyfansoddwr o gyfansoddi a chynhyrchu yn wahanol.

“Mae’r broses o gyfansoddi a llunio a chrefftio cân yn un mor amwys sy’n gwneud yr holl beth mor frawychus ond eto mor gyffrous.

“Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i gael gweld beth fydd ffrwyth ein llafur ni erbyn diwedd y cwrs arbennig yma!”

Cynhelir y gweithdai yn ystod y diwrnodau canlynol:

  • Llun, Gorffennaf 28 
  • Mawrth, Gorffennaf 29 
  • Llun, Awst 11 
  • Mawrth, Awst 12 

Gellir gwneud cais am le ar y gweithdai trwy ffurflen ar-lein, a bydd y dyddiad cau ar 4 

Gorffennaf, gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar yr 11 Gorffennaf.