Bydd dwy noson o gigs amgen yn cael eu cynnal yn Wrecsam i gyd-fynd ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a’r dref.
Mae pawb yn ymwybodol o gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gyd-fynd a’r Eisteddfod, yn ogystal â gigs Maes B wrth gwrs, ond bydd dau gig yn cael ei cynnal gan drefnwyr ‘Cynhyrchiadau Damwain / Jones’ yn ystod yr wythnos eleni hefyd.
Bydd y cyntaf ar nos Fercher 6 Awst yn lleoliad Lab yn Eagles Meadow, Wrecsam gyda Pys Melyn, Crinc, Hap a Damwain ac Yr Onglau.
Yna bydd ail noson yn y Drunk Monk, Overton Arcade ar nos Wener 8 Awst gyda Peiriant, Osgled a Tai Haf Heb Drigolyn. Mae mynediad i’r gigs yn £10 ar y drws.
Llun: Peiriant fydd yn perfformio ar 8 Awst.