Mae Ffos Goch wedi rhyddhau albwm newydd.
‘Llythyr Serch at Sylvia’ ydy enw’r record hir newydd gan y cerddor profiadol a chynhyrchio o Birmingham.
Ffos Goch ydy prosiect cerddorol diweddaraf y cerddor Stuart Estell.
Mae teitl yr albwm yn cyfeirio at, ac wedi’i ysbrydoli gan y bardd ac awdures Americanaidd enwog, Sylvia Plath.
“Astudiais farddoniaeth Plath pan o’n i yn y brifysgol, ond dw i wastad wedi teimlo fel bod hi’n cael ei chamddeall” eglura Estell.
“Wrth gwrs, roedd ganddi broblemau iechyd meddwl sylweddol, ac mae’r cerddi’n ymdrin â hynny – ynghyd â’r gamdriniaeth a ddioddefai dan law ei gŵr enwog Ted Hughes – ond roedd hi fel menyw yn fwy na’i hafiechyd na’i chamdriniaeth.
“Roedd hi’n bianydd, yn fam, yn fardd rhagorol. Ac fe allai hi fod yn ddoniol tu hwnt.”
Mae’r albwm yn cynnwys 14 o draciau, a fel yr eglura Estell fe’u cyfansoddwyd mewn cyfnod byr iawn o amser.
“Y tro yma, mae darnau gair llafar yn cael eu cyfeilio gan amrywiaeth o recorders ac ocarinas, ynghyd â chwpwl o synths yma ac acw” meddai’r cerddor.
“Recordiwyd y mwyafrif o’r gerddoriaeth ar yr un diwrnod mewn stafell wely yng Ngarth Newydd yn Llambed.”
Roedd parti gwrando ar gyfer yr albwm ar safle Bandcamp Ffos Goch nos Sul, 22 Chwefror gyda’r artist yn rhannu geiriau’r caneuon ynghyd ȃ sylwadau ar y cerddi.
Yn ogystal ȃ’r fersiwn digidol, am y tro cyntaf mae Ffos Goch yn rhyddhau fersiwn feinyl drwy ElasticStage. Bydd unrhyw elw o werthiant yn mynd tuag at WWDAS (West Wales Domestic Abuse Service).