Cyhoeddi rhifyn Gwanwyn 2026 o gylchgrawn Y Selar

Mae rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Y Selar wedi’i gyhoeddi ac ar gael yn rhad ac am ddim o’r mannau arferol.

Hwn ydy rhifyn y Gwanwyn, a rhifyn Gwobrau’r Selar, ac yn ôl y traddodiad rheiny oedd yn gadael noson Wobrau’r Selar yn Aberystwyth nos Sadwrn oedd y cyntaf i gael eu bachau ar y copïau print.

Mali Hâf sydd ar glawr y rhifyn newydd wrth iddi baratoi i ryddhau ei EP diweddaraf.

Mae’r rhifyn newydd yn cynnwys Sgwrs Sydyn gyda Mali, yn ogystal â gyda’r band o’r Felinheli, Achlysurol, sy’n paratoi i ryddhau eu halbwm newydd.

Ceir cyfweliad arbennig gyda Dafydd Owain, enillydd gwobr ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar nid llai, am ei ail albwm gwych, Ymarfer Byw.

Rhwng cloriau’r rhifyn newydd mae hefyd darn arbennig i nodi 10 mlynedd o’r band Alffa, a darn ‘Y Gornel Werin’ am Taff Rapids.

Dau o fandiau rhestr fer categori ‘ Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar, Hafna a Blêr sy’n cael syl ‘Newydd ar y Sin’ ac mae Griff Lynch yn trafod ei albwm yntau, Drac Wrth Drac.

Bachwch gopi print yn y mannau arferol, neu gallwch ddarllen y fersiwn digidol isod.

 

Gadael Ymateb