Wrth i ŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd ddathlu 20 mlynedd eleni, fel rhan o ffrinj y digwyddiad bydd gig arbennig yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Caerdydd wrth i Bwncath berfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC.
7 Mehefin fydd dyddiad y gig fydd yn gyfle i brofi perfformiad unigryw gan un o fandiau mwyaf Cymru ar hyn o bryd.
Bydd y cydweithrediad arbennig yn gweld sain pop gwerinol y band yn cael ei ehangu drwy drefniannau cyfoethog a cherddorfaol, a ddylai greu sioe arbennig iawn. Mae tocynnau’r gig ar werth nawr am £25.